'Nawr 'rwy'n gwel'd yr ardal hyfryd, Hen gartrefle fy Anwylyd; Gwlad lle mae pob rhyw gysuron Yn llifeirio fel yr afon. Ffarwel bellach hen bleserau Dwyllodd f'ysbryd fil o weithiau; Cefais bleser canmil purach, 'Ddaw o'i ganlyn ofid mwyach. [Ffarwel bellach hen bleserau Dwyllodd f'ysbryd fil o weithiau; 'N awr 'r wyf wedi ffeindio hawddfyd, Nad oes ynddo radd o ofid.] Nef a daear byth ni phrisia Y perl a gês - mae'n well na'r India; Iesu a'i drysor, dyna ei sylwedd, Nef y nefoedd yn y diwedd. [Mi ge's perl gwell nag o'r India, Nef a daear byth ni phrisia, Iesu a'i drysor, dyna ei sylwedd, Nef y nefoedd yn y diwedd.] Dacw'r gwledydd hyfryd helaeth A roed imi'n etifeddiaeth; Lle mae cariad pur yn llifo Dros ardaoedd gras heb flino. Fe ddaw dydd y câf fi ganu, Concwest bai oedd yn fy maeddu; Haleluia nefol hyfryd, Diwedd pechu, diwedd gofid. 'R wyf yn clywed myrdd o seintiau 'N awr yn canu eu telynau, Ac yn taro un Hosanna, Dechrau anthem pen Calfaria. Minnau gaf fod yn eu cwmni, Cyn pen gronyn yno'n canu, Edrych gyda hwy yn ŵyneb Disglair Brenin tragwyddoldeb. Blwyddau hirion o ryfela, 'N oruchafiaeth a derfyna; Fe dry galar am bob beiau, Yn Hosanna ond eu maddeu. phrisia // Y perl :: phrisia'r // Perl Mi ge's perl :: Mi gês perl :: Cefais berl
Tonau [MH 8888]:
gwelir: |
Now I am seeing the delightful region, The old home of my Beloved; A land where every kind of comfort is Flowing like the river. Farewell henceforth old pleasures Which deceived my spirit a thousand times; I got pleasure a hundred thousand times purer, Than came from its following grief more. [Farewell henceforth old pleasures Which deceived my spirit a thousand times; Now I have found blessedness, Which has not within it a degree of grief.] Heaven and earth shall never value The pearl I got - it is better than India; Jesus and his treasure, that is its substance, The heaven of heaven in the end. [I got a pearl better than from India, That heaven and earth never valued, Jesus and his treasure, that is its substance, The heaven of heaven in the end.] There are the delightful, plenteous lands, That were given to me as an inheritance; Where pure love is flowing Over regions of grace tirelessly. The day will come when I will get to sing, The conquest of a fault which was beating me; A delightful, heavenly hallelujah, The end of sin, the end of grief. I can hear a myriad of saints Now playing their harps, And striking the same Hosanna, The beginning of the anthem of the summit of Calvary. I too shall get to be in their company, Before long there playing, Looking with them into the shining Face of the King of eternity. Long years of war, In supremacy shall end; Mourning for every sin will turn, Into hosanna but their forgiveness. :: :: :: tr. 2017,18 Richard B Gillion |
|